Oes Gobaith I’r Gymraeg Yn Yr Oes Ddigidol Neu Beidio?

Meri Huws

Ar ôl clywed am adroddiad comisiynydd y Gymraeg i wasanaethau bancio yn y Gymraeg yn dilyn twf o gwynion daeth un cwestiwn i’m meddwl. A oes gobaith i’r Gymraeg yn yr oes ddigidol? Daw’r cwestiwn yn sgil sylwadau Meri Huws bod banciau Cymru wedi methu â sicrhau gwasanaethau ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg.

Wrth gwrs, rydym wedi hen arfer â gweld arwyddion dwyieithog mewn canghennau ac rwyf o hyd yn ysgrifennu sieciau yn y Gymraeg. Ond yna sylweddolais… Nid wy’n mynd i’r banc yn gorfforol llawer bellach ac wrth feddwl amdani… mae dros 6mis wedi pasio ers i mi ysgrifennu fy siec ddiwethaf. Pryd oedd y tro diwethaf i mi ddefnyddio bancio ar-lein? Wel – rwyf wedi fy mewngofnodi nawr!

Y pwynt rwy’n ceisio tynnu sylw at yma yw, bod chwyldro Cymdeithas yr iaith Gymraeg yn y 60au wedi sicrhau nifer o hawliau wrth i ni fynni wasanaethau cyfrwng Cymraeg yn gorfforol ond nad yw’r hawliau hyn wedi eu trosglwyddo i’r gofod ar-lein.

A ydych chi erioed wedi gwneud eich siop ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg? Rwyf erioed wedi, ond rwy’n aml yn defnyddio’r tiliau hunan wasanaeth yn Tesco trwy gyfrwng y Gymraeg. A ydych chi erioed wedi defnyddio bancio ar-lein trwy gyfrwng y Gymraeg?

Nid wyf i wedi, ond rwy’n aml yn siarad Cymraeg i bwy bynnag sy’n gwisgo’r bathodyn siarad Cymraeg wrth gownter Lloyds yn Abertawe yn y Gymraeg.

Ond, rhaid cyfaddef bod fy nheithiau i ganol y dre er mwyn defnyddio’r gwasanaethau hyn yn lleihau wrth iddi ddod yn llawer mwy cyfleus i mi ddefnyddio gwasanaethau o’r fath ar-lein. Rwy’n hollol sicr erbyn hyn fy mod i’n defnyddio llai a llai o’m Cymraeg o achos hyn. Lle cefais gyfle i wasgu’r botwm ‘Cymraeg’ ar dwll yn y wal rwy’ bellach yn defnyddio bar-code ar fy ffôn symudol er mwyn talu am nwyddau.

Ar ôl cyfnod o fyfyrio daeth y sylweddoliad i’m meddwl. Ni fydd dyfodol i’r Gymraeg pe bai’r drefn bresennol o wfftio’r Gymraeg ar-lein yn parhau. Rwy’n hollol sicr bod pawb sy’n darllen yr erthygl hon yn llwyr ymwybodol o ddylanwad cynyddol technoleg ar eu bywydau a pa mor integredig y mae technoleg yn y gymdeithas gyfoes hon.

Rwyf yn aml yn gweld plant ifanc ifanc gyda’u pennau yn un â’u iPads yn chwerthin ar ryw gartŵn neu’n chwarae rhyw gêm lle mae rhaid poeni’ch ffrindiau i helpu chi ffarmio rhyw ddarn o dir neu brynu mochyn newydd i’ch ffarm trwy hysbyseb ar Facebook.

A dyma’r gwirionedd sydd rhaid ei wynebu bellach – Mae’ch ffrindiau a’ch plant yn cael mwy o gysylltiad â Saesneg Americanaidd y rhyngrwyd na Chymraeg eich milltir sgwâr.

Faint o’r gemau y maent yn chwarae sydd ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg? Dywedaf wrthych yr ateb yn awr – Braidd dim! Mae’n gwbl amlwg i mi nad oes modd i’r Gymraeg cystadlu gyda’r Saesneg ar-lein oni bai ein bod ni fel siaradwyr Cymraeg yn mynd ati i fynnu bod y llywodraeth yn actio er mwyn sicrhau dyfodol i’n mamiaith.

Dyma’r hyn sy’n rhaid sicrhau – Rhaid creu deddfwriaeth er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cwmnïau yr ydym yn defnyddio o ddydd i ddydd ar gael yn y Gymraeg ar-lein a bod cyllid ar gael i’r rheiny sy’n creu appiau i wneud hynny yn ddwyieithog heb wynebu cost ychwanegol.

Yn annhebyg iawn gallwn ddibynnu ar y cwmnïau hyn i wario eu miliynau helaeth ar gyfieithu a chynnal gwasanaethau gyfrwng Cymraeg yn wirfoddol.

Comment Below (Moderated)

comments