Share |

CERDDORION: NA I 49c

Cymerodd Brigyn ran yn y streic

 

Gan Alun Rhys Chivers

Mae ffrae ddiweddar ynghylch breindaliadau i gerddorion Cymraeg yn golygu na chafodd cerddoriaeth rhai o fandiau ac artistiaid amlycaf y sin gerddoriaeth Gymraeg ei chwarae ar Radio Cymru ar Ddydd Gŵyl Dewi eleni.

Mae dros 100 o gerddorion wedi bwrw eu henwau ar ddeiseb yn galw am newid yn y ffordd y cânt eu talu pan fydd eu caneuon yn cael eu chwarae ar yr orsaf.

Cafodd rheolau’r Performing Rights Society eu newid yn 2007, a bellach caiff Radio Cymru ei thrin fel radio lleol, sy’n golygu bod llai o freindal ar gael na’r hyn a gynigir gan orsafoedd radio cenedlaethol yn Lloegr.

Bwriad y streic, yn ôl y grŵp cerddorion, oedd dwyn perswâd ar BBC Cymru i ddylanwadu ar y ffordd y caiff artistiaid eu talu yng Nghymru. Ymatebodd y BBC i’r streic gan ddweud mai ffrae rhwng y PRS a’r artistiaid yw hyn, a bod y brotest wedi cosbi gwrandawyr.

Bob tro y caiff caneuon eu chwarae ar yr orsaf, mae’r gymdeithas yn derbyn breindal, sydd wedyn yn cael ei rannu rhwng yr artistiaid. Ar hyn o bryd, maent yn derbyn 49c y funud.

Ymddengys fod y rheolau newydd yn ymgais i dorri costau’r PRS, gyda breindaliadau’n gostwng o £1.6 miliwn yn 2007 i £260,000 ddwy flynedd yn ddiweddarach.

Mae’r grŵp o brotestwyr wedi rhybuddio y gellir sefydlu cymdeithas freindaliadau newydd sbon i dalu cerddorion Cymraeg os na fydd y sefyllfa’n gwella. Byddai’r gymdeithas honno dan ofal Llywodraeth y Cynulliad.

Ymhlith y rhai a fu’n protestio, roedd Bryn Fôn, Elin Fflur, Meic Stevens, Dewi Pws Morris, Fflur Dafydd, Brigyn, Huw Chiswell, Gwyneth Glyn a Gai Toms.

Comments

No doubt Canada Goose is one of the most famous clothing brands all over the world, and it’s well-known for producing both clothes and some accessories, which most popularly includes down jackets, parkas, vests, hats, Canada Goose Outlet etc. Of course, there must be some people who think that the price of Canada Goose are higher than many other down coats, and then give up their first choice. Here I dare to say these people definitely will regret, because they will get what they pay for. So if you want a both warm and pleased winter, Canada Goose down coats are your first and best choice.

Howdy! I just want to give an enormous thumbs up for the good info you could have right here on this post. I shall be coming back to your weblog for more soon.
Superjeweler black diamond Essay Vistaprint magnets isolationism After 6pm noblest Zappos Coupon immutability

Office 2010 we also do Office 2007 Key several considerable internal microsoft office 2010 key labor to streamline purchase microsoft office 2007 and lessen our office 2010 professional plus commodity line. Although Office Professional 2007 a lot of labor Office Professional 2010 has not yet Windows 7 been found outdoors Microsoft Office 2007 Enterprise .

The abercrombie and fitch store will house four separate stores, a private VIP lounge and an art gallery tunnel of contemporary works leading to the abercrombie france , which will sell a specially curated range of design, abercrombie paris cultural and art books.