Ar ôl ennill y ras i fod yn Swyddog Cymdeithasau a Gwasanaethau'r Undeb ar gyfer 2011/12, cadarnhaodd Tom Upton fod y polisi dwyieithrwydd yn ddiogel.
Yn ystod Fforwm Cymraeg a drefnwyd gan y Swyddog Materion Cymreig, cododd pryderon y gallai'r polisi gael ei ddiwygio fel na fyddai'n rhaid i'r cymdeithasau arddangos cyhoeddusrwydd dwyieithog.
Ond ar noson yr etholiad, dywedodd Tom, "Mae'r polisi am aros fel y mae e.