Issue 141

And The Results Are In
Cyfrwch Ni I Mewn!
13th March 2006
Cynhaliwyd yr etholiadau sabothol blynyddol yr wythnos hon, ac roedd Diva's dan ei sang neithiwr wrth i'r Swyddog Etholiadol gyhoeddi'r canlyniadau dros linc gwe-gamera o Ystafell Fwyta C.
Enillodd Owen 'O' Morgan y ras i olynnu Becki McKinlay fel Llywydd Undeb y Myfyrwyr, gan gasglu 724 o bleidleisiau yn erbyn ei wrthwynebydd, (425).
Gwelwyd 27 ymgeisydd yn herio'i gilydd am chwech safle ar y tîm sabothol ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac fe bleidleisiodd niferoedd uchel o fyfyrwyr gyda dros 1,600 yn mentro ym mhob categori.
Ail-etholwyd Owen Morris yn Drysorydd gyda 787 o bleidleisiau, gan wthio Adam O'Neill i'r ail safle.
Deilydd safle Swyddog y Menywod fydd Emma Bartlett, wedi iddi gael 657 o bleidleisiau er mwyn curo'i chystadleuydd Vicki Bateman.
Llenwir safle'r Swyddog Rhyngwladol a Thramor gan Kylie Bartelli, a gafodd mwyafrif mewn brwydr agos gydag Anthonia Ifeanyi-Okoro.
Gyda'r safleoedd Lles ac Addysg bellach wedi eu rhannu, roedd y gystadleuaeth yn ffyrnig wrth geisio llenwi'r safleoedd. Curodd Stuart 'Chugga' Jones Matt O'Grady gyda 713 o bleidleisiau, tra bod safle'r Swyddog Lles wedi'i gipio gan Miles Goodman wedi iddo yntau guro Gareth 'G' Evans a gafodd ail o 665 pleidlais i 500.
Roedd y Swyddog Etholiadau, Stuart Rice yn hapus gyda'r etholiadau, gan ddweud "roedd hwn yn etholiad cyfeillgar wedi'i frwydro i'r eithaf. Roedd nifer y pleidleiswyr yn uchel ac felly nifer yr ymgeiswyr - yn record dwi'n credu. Da iawn i bawb - roeddech chi'n glod i'r Undeb. Dwi'n edrych ymlaen at weithio gyda thîm 2006/7".
Lleisiodd y Llywydd sydd yn gadael ei swydd, Becki McKinlay, ei theimladau cadarnhaol hithau ynghylch yr etholiadau, gan ddweud, "mae pawb wedi ymgyrchu'n ddiwyd dros yr wythnos diwethaf, er gwaethaf y ffaith ei fod yn llethol o ran emosiynau ac yn gorfforol. Bu'n ymgyrch gyfeillgar a dwi'n credu bod yr holl ymgeiswyr wedi mwynhau'r profiad."
Waterfront Online
» Cymraeg

