spacer

Issue 146

Waterfront Online
Waterfront Online

Ein Swyddog Materion Cymraeg

09th October 2006

Un o'r pethau pwysicaf am fywyd yn y Brifysgol yw gwybod at bwy i fynd pan fydd problem o ryw fath. Yr wythnos diwethaf cafodd y Sabbs eu cyflwyno i chi. Y tro hwn rwyf yn mynd i gyflwyno'r Swyddog Materion Cymreig (Welsh Affairs Officer) i chi! Dyma'r person sydd yma i gynorthwyo'r Cymry.

Alun Rhys Chivers yw ein Swyddog Materion Cymreig ni yma yn Abertawe. Y mae wedi llanw'r swydd yma ers blwyddyn yn barod ac fe gafodd ei ail-ethol ar ddiwedd y flwyddyn academaidd ddiwethaf. Ei obaith wrth gymryd y rôl yma oedd cael y cyfle i wneud gwahaniaeth ym mywydau myfyrwyr Cymraeg (a di-Gymraeg) y Brifysgol.

Mae'r mater o gynnal polisi dwyieithog UMPA (Students' Union) hefyd yn rhan bwysig o waith Alun. Yn ôl y polisi hwn dylai pob cymdeithas hysbysebu yn ddwyieithog ac nid yn unig yn Saesneg. Caiff y deunydd yma ei gyfieithu gan Yr Adran Gyfieithu yn ogystal ag unrhyw beth yn ymwneud â'r Pwyllgor Gwaith a'r Swyddogion Sabothol. Mae'r gwaith hwn yn cael ei wneud yn anoddach gan nad yw pawb yn dilyn yr un polisi, e.e. mae gan Ents eu polisi eu hunain sy'n datgan bod yn rhaid iddynt gyfieithu deunydd mewnol ond nid deunydd allanol tra bod yr Undeb Athletaidd ar wahân i UMPA yn gyfan gwbl, sydd yn ei wneud yn bosib i'r cymdeithasau hynny i fod yn rhydd o unrhyw reolau cyfieithu. Mae'r Brifysgol ei hun ar wahân eto ac mae'r rhain yn dod o dan Gynllun Iaith y Brifysgol, Eiry Miles (Swyddog Iaith Gymraeg y Brifysgol) sy'n gweithredu'r polisi hwn. Y mae Alun hefyd yn cynnig llais i fyfyrwyr o fewn Pwyllgor Defnyddio'r Gymraeg y Brifysgol. Y mae'n bwriadu dechrau rhywbeth tebyg o fewn UMPA.

Un o ddyletswyddau eraill Alun yw'r ochr gymdeithasol, h.y. y mae Alun yn gyfrifol am drefnu digwyddiadau cymdeithasol i'r Cymry Cymraeg a'r di-Gymraeg (er mwyn eu cyflwyno i ddiwylliant Cymru), ynghyd â dangos iddynt ble mae'n bosib iddynt ddod ar draws bywyd nos Cymraeg yn Abertawe. Ty Tawe yw'r lle mwyaf amlwg. Hefyd y mae'n gwneud yn siwr bod pawb yn gwybod am fodolaeth y Gymdeithas Gymraeg (y Gym- Gym), gan weithio'n agos â'r gymdeithas honno yn yr hyn y maent yn ei wneud. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Eleri Hughes (Llywydd): ygymdeithasgymraeg@hotmail.c om.

Dyma rhai dyddiadau cymdeithasol pwysig:- Hydref 11 – 15 – Tyrfe Tawe: Gwyl gerddoriaeth Gymraeg am ddim mewn nifer o leoliadau ar draws y ddinas, gyda rhai o artistiaid gorau'r SRG, gan gynnwys Frizbee, Sibrydion, Mattoidz, ac ar y llwyfan acwstig, Fflur Dafydd, darlithydd yn Adran Saesneg y Brifysgol. Am fwy o wybodaeth ymwelwch â'r dudalen we: www.tyrfetawe. com.

Tachwedd 4 - Taith i'r gig Rynggol yn Aberystwyth Tachwedd 24 – Gwener y Grolsch: Kentucky AFC, Ty Tawe (Mynediad £4)

Efallai bod nifer ohonoch yn byw yn llety'r Brifysgol eleni (y myfyrwyr newydd beth bynnag!) a byddwch wedi sylweddoli eich bod wedi eich cymysgu gyda llawer o bobl ddi-Gymraeg. Un o amcanion ein swyddog Materion Cymreig yw cyfathrebu â'r Swyddfa Llety er mwyn ceisio, yn y pen draw, i gael Cymry Cymraeg yn byw mewn un man os ydynt yn dymuno. Yn ôl bob sôn yr oedd arfer bod llawr Gymraeg lwyddiannus yn y Brifysgol ryw bum mlynedd yn ôl. (Beth yw eich barn chi am hyn? Da neu Ddrwg?)

Os hoffech chi gysylltu ag Alun Rhys Chivers am unrhyw un o'r materion hyn neu unrhyw beth arall, y mae'n bosib ei e-bostio at y cyfeiriad yma: materion_cymreig@hotmail.co.u k

Nia Williams

Written By
Waterfront OnlineNia Williams
Welsh News Editor
 

Nia Williams is the welsh news editor for the waterfront.

 

» find out more

Search