Issue 145

Eisteddfod Genedlaethol Abertawe
Eisteddfod Genedlaethol Abertawe 2006
25th September 2006
Yr Eisteddfod Yw Un O Brif Ddigwyddiadau'r Flwyddyn I Ni Fel Cymry. Y cyfle I ni i ddathlu ein Cymreictod. Mae'r Eisteddfod wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol ers 1880 pan ffurfiwyd Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Cyfrifoldeb y Gymdeithas yma oedd i wneud yn siwr fod Eisteddfod Blynyddol yn digwydd ag er mwyn tegwch fod y Gogledd a'r De yn cael cynnal yr Eisteddfod bob yn ail flwyddyn.
Mae'n cael ei ystyried yn fraint mawr i gael cynnal yr Eisteddfod a mae bron bob rhan o Gymru wedi ei gynnal rhywdro. Abertawe oedd a'r fraint hon eleni! Y tro cyntaf ers 1982 i Abertawe i gael y fraint honno. Dyma'r 5ed tro i Abertawe gynnal yr Eisteddfod Genedlaethol ers 1891.
Roedd yr Eisteddfod eleni yr un peth a bob Eisteddfod arall dwi byth wedi ei ymweld â, ond am dau beth. Y Pafiliwn a'r ffaith i fi weld braidd dim o'r maes am y ffaith syml i fi fod yn ddigon twp i gymryd gwaith yn un o'r pabellu bwyd am yr wythnos. Credwch fi mae ochr arall i'r Eisteddfod sydd ddim yn joio! Y rheswm i fi ddweud fod y Pafiliwn yn wahanol i'r arfer eleni oedd y ffaith fod y Pafiliwn ddim wedi ei liwio yn Felyn a Glas fel arfer ond roedd y Pafiliwn yn Binc. Ie, Pinc! "Barbie Pink" yn ôl rhai. Pam? Yw'r cwestiwn sy'n dod i feddwl.
Wel y rheswm fod y Prif Bafiliwn yn binc oedd er mwyn tynnu sylw at elusen Cancr y Fron. A i fod yn deg mae'n amhosib fod pobl heb sylweddolu'r Babell enfawr llachar hon. Roedd yn bosib ei weld o'r M4.
Ond nid yw hwn yn dweud unrhywbeth am Eisteddfod eleni a'r pethau a ddigwyddodd yno. I ddechrau mae'n rhaid i ni ystyried digwyddiadau pwysicaf unrhyw Eisteddfod sef y Cadeirio, y Coroni a'r Fedal Rhyddiaeth! Mae'r Gadair yn mynd i Prifardd yr Eisteddfod, tra fod y Goron yn cael ei rhoi am gasgliad o farddoniaeth neu pryddest. Mae'r medal Rhyddiaeth yn weddol amlwg yn wobr sy'n cael ei rhoi am y darn o Rhyddiaeth mwyaf da. Ennillwyr y gwobrau arbennig yma oedd Gwynfor ab Ifor (Y Gadair), Eigra Lewis Roberts (Y Goron), a Fflur Dafydd (Y Fedal Rhyddiaeth)
Dyma seremoniau'r dydd ond rhaid peidio anghofio am ddigwyddiadau'r nos. h.y. Cyngerdd Katherine Jenkins (merch lleol o Gastell Nedd), Y Gymanfa Ganu (o'n i 'na!), a.y.b. Yr oedd y rhain werth ei gweld! Trueni i fi dim ond cael y cyfle i fynd i'r Gymanfa Ganu.
Mae'n rhaid dweud fod Eisteddfod eleni wedi bod yn lwyddiant anferthol (yn fy marn i ta beth!) ac yr oedd yn fraint (er yn lot lot o waith) i fod yn rhan o ddigwyddiad mwyaf Cymraeg y Cymry. Er hyn fydda I ddim yn gweithio mewn pabell fwyd eto (rwy'n gobeithio!).
Waterfront Online
» Cymraeg

