Issue 148

Waterfront Online
Rhai o enwogion rygbi Cymru
06th November 2006
Gyda tymor Rygbi rhyngwladol arall just rownd i'r gornel dwi wedi penderfynnu 'sgrifennu am rhai o chwaraewyr Rygbi mwya' enwog y gorffennol. Mae Cymru wedi cael ei bendithio ar hyd y blynyddoedd gyda chwaraewyr Rygbi arbennig.
Mae sawl chwaraewr Cymraeg yn yr 'International Rugby Hall of Fame' a ddechreuod just degawd yn ôl yn 1997. Er mae dim ond chwaraewyr y Cymru fydda i yn cymryd unrhyw diddordeb ynddynt mae'n bosib ffeindio mwy allan am chwaraewyr arbennig y timau eraill ar dudalen we y gymdeithas http://rugbyhalloffame.com/ Mae enwau newydd yn cael eu cynnwys bob dwy flynedd. Yn 1997 y Cymry a cafodd eu adio i'r Neuadd Enwogion oedd:- Gareth Edwards, Barry John, Cliff Morgan a J P R Williams. Eto, pwy Gymro a byddai ddim yn erfyn hyn? Yn 1999 cafodd dau Gymro arall ei derbyn i'r gymdeithas arbennig yma:- Gerald Davies a Carwyn James. Ac yna yn 2001 cafodd Mervyn Davies ei dderbyn. Yn anffodus yn 2003 ni chafodd unrhyw Gymry ei derbyn i'r Neuadd Enwogion yna yn 2005 roedd y Cymry yn nôl ar y bwrdd gyda Phil Bennett a Gwyn Nicholls. Mai 9 Cymro wedi ei derbyn i'r gymdeithas. Mae Cymru yn ail yn unig i Seland Newydd sydd â 11 o'u chwaraewyr rhyngwladol yn y Neuadd. (Hwre i Gymru!!!!)
Gareth Edwards
Dyddiad Geni:- 12/07/1947
Lle Genedigaeth:- Glanaman
Ymddangosiad Cyntaf:- 01/04/1967 yn eryn Ffrainc
Ymddangosiad Olaf:- 18/03/1978 yn erbyn Ffrainc
Chwaraeodd Gareth Edwards i Gymru rhwng 1967 a 1978. Fe ennillodd 53 o gapiau dros i'w wlad a 88 o bwyntiau. Yn ei yrfa rhyngwladol fe gafodd 20 cais, un cic gosb, dau trosiad a tri gol Gwymp. Fe wnaeth Gareth Edwards hefyd ennill 10 cap yn chwarae dros i'r Llewod rhwng 1968 a 1974 yn ystod y blynyddoedd hyn yr oedd yn rhan o'r tim a ennillodd dau gyfres profi yn erbyn Seland Newydd a De Africa. Y mae Gareth Edwards hyd yn oed wedi ei adio i rhestr 100 Arwyr Cymru (Rhif 6) ynghyd a rhai o arwyr mwya Cymru mae hyn yn dangos pwysigrwydd Rygbi i'r Cymru ei fod yn yr un rhestr a enwogion fel Owain Glyndwr ag Aneurin Bevan. Ei gais mwyaf arbennig yw'r un a sgoriodd yn erbyn Seland Newydd fel aelod o'r Barbarians yn 1973.
Barry John
Dyddiad Geni:- 06/01/1945
Lle Genedigaeth:- Cefneithin
Ymddangosiad Cyntaf:- 03/12/1966 yn erbyn Awstralia
Ymddangosiad Olaf:- 25/3/1972 yn erbyn Ffrainc
Un o gyd-chwaraewyr Gareth Edwards oedd Barry John. Cafodd Barry John y fraint o chwarae dros i'w wlad 25 tro rhwng 1966 a 1972. Yn yr amser yma fe lwyddodd i gael 90 o bwyntiau wrth gymryd 13 cic gosb, wyth gol gwymp, chwech trosiad a phump cais. Barry John oedd un o'r chwaraewyr cannodd Max Boyce amdano. Yn ôl Max Boyce cafodd Barry John ei greu allan o ddelwedd aur solid yn yr "outside half ffactory" . Mae llawer yn cofio Barry John am ei rhediadau angrhedadwy drwy'r gwrthwynebiad mwyaf da.
J P R Williams
Dyddiad Geni:- 01/03/1949
Lle Genedigaeth:- Caerdydd
Ymddangosiad Cyntaf:- 02/03/1969 yn erbyn yr Alban
Ymddangosiad Olaf:- 07/02/1981 yn erbyn yr Alban
Un arall o dim chwedlonol y '70au yw JPR Williams. Fe ennillodd JPR 55 o gapiau i Gymru rhwng 1969 a 1981. Nid dim ond ym myd Rygbi gwnaeth JPR enw i'w hun ond hefyd ym myd Tennis. Yr oedd JPR yn barod yn Benigampwr Ieuanc Wimbledon pan gafodd ei alw i fynny i Chwarae i Gymru yn Hydref 1968. Ennillodd JPR 36 o bwyntiau i Gymru trwy wneud chwech cais, tri cic cosb a dau drosiad. Mae JPR hefyd yn ymuno Gareth Edwards ar rhestr 100 Arwr Cymru (24ain) fel un o amddiffynnwyr gorau Cymru. Yn ol gwefan 100 Arwr Cymru yr oedd JPR yn:- "He seemed able to appear from nowhere to rescue a desperate situation. Many a wouldbe try scorer, having broken through the Welsh defence, would then have his weekend comprehensively ruined just milliseconds before reaching the line. "
Gwyn Nicholls
Dyddiad Geni:- 15/07/1874
Lle Genedigaeth:- Westbury-on- Severn
Dyddiad Marwolaeth:- 24/03/1939
Ymddangosiad Cyntaf:- ddim ar gael
Ymddangosiad Olaf:- ddim ar gael
I adael y '70au i gael rhywfaint o newid chwaraeodd Gwyn Nicholls rhwng 1896 a 1906 mewn 24 gem. Ei foment fawr oedd y gem yn erbyn Seland Newydd yn 1905 pan arweiniodd Cymru i ennill dros y tim o bant a oedd heb golli un gem yn ystod eu ymweliad a Ynysoedd Prydain cyn hyn. Roedd yn cael ei adnabod fel 'Tywysog y Tri- Chwarteri.' Fe wnaeth hyd yn oedd ysgrifennu llyfr pan ymddeolodd o Rygbi sef "The Modern Rugby Game - and how to play it.
Dim ond rhif bach iawn o chwaraewyr y Gorffennol sydd fan hyn ond y mae'n flas o chwaraewyr arbennig Cymru. Gyda gemau'r hydref yn dod i fynnu yn gyflym mae'n rhaid i ni obeithio fod arwyr y dyfodol mynd i ddod i'r brig a gwneud cymaint o dda i'r gem yng Nghymru a'r unigolion yr ydym wedi edrych arnynt heddiw.
Nia Williams


Nia Williams