spacer

Issue 149

James Hook - Seren Newydd Cymru?
James Hook - Seren Newydd Cymru?

Dwy gem, dau ddim!

20th November 2006

Pwy wlad allai ofyn am fwy? Dros i'r bythefnos ddwetha ma' Cymru wedi chwarae rygbi arbennig. Y peth gorau am hyn yw'r ffaith fod y ddwy gem wedi cael dechreuwyr gwahanol.

Yn y gem yn erbyn Awstralia ar y 4edd o Dachwedd ddaethon ni allan gyda sgor cyfartal am y tro cyntaf ers 1908. Yn y tim a ddechreuodd y gem hon oedd:- Morgan; G Thomas, Shanklin, Henson, S Williams; S Jones (capt), Peel; Jenkins, Rees, A Jones; Evans, Gough; J Thomas, M Williams, R Jones. Ag ar y fainc yr oedd: - R Thomas, D Jones, G Thomas, Wyn Jones, Phillips, Hook, M Jones. Roedd yr hanner cyntaf o'r gem hon yn ddigon i dorri unrhyw berson. A gyda Stephen Jones y Capten yn ddigon anffodus i gael anaf ar ol dim ond 23 o funudau doedd dim rhyfedd fod calonnau llawer o Gymry yn dechrau torri. Ond yn ffodus er fod James Hook yn chwarae i Gymru gatref am y tro cyntaf fe ddangosodd ei hun fel aelod pwysig i'r tim drwy chwarae yn arbennig a cicio yn ddi-fai. Ar ol y 33 munud cyntaf fe ddechreuodd bethau i wella i Gymru gyda cais cyntaf Cymraeg y gem wrth Shane Williams. A gyda gol gosb cyn hanner amser yr oedd Cymru ond pwynt y tu ol 17-16. Yn ail hanner y gem cawsom ni gais arall (Martyn Williams y tro hwn) a dau cic cosb. Y sgor ar ddiwedd y gem oedd 29-29.

Gyda'r tim a chwaraeodd ar y 4edd o Dachwedd wedi chwarae mor dda yn erbyn Awstralia roedd yn rhywfaint o sioc pan cafodd tim cwbwl wahanol ei enwi yn erbyn Ynysoedd y Pacific. Ond wrth weld y tim newydd hyn yn chwarae daeth unrhyw amheuon i ddiwedd. Yn chwarae i Gymru ar yr 11fed o Dachwedd oedd:- K Morgan; L Byrne, S Parker, J Hook, M Jones; C Sweeney, M Phillips; D Jones (capt), R Thomas, C Horsman, M Owen, R Sidoli, A Wyn Jones, G Thomas , A Popham. Gyda:- H Bennett, A Jones, G Jenkins, J Thomas, G Cooper, G Evans, S Williams ar y fainc. Gyda 14 newid i'r tim dechreuadol roedd yn galed i gred pan aeth y tim yn ol i'w ystafell newid hanner amser gyda pedair cais o dan ei beltiau a sgor arbennig o 31 i 5. Ond nid oedd y gem ar ben. Daeth yr Ynyswyr yn ol yn gryf yn ail hanner y gem ond ddim digon i ennill y gem. Y sgor ar ddiwedd y gem oedd 38 i 20.

Gyda cymaint o chwaraewyr arbennig i ddewis wrth does dim rhyfedd bod hyfforddwr Cymru Gareth Jenkins yn hapus ofnadwy. Wedi'r cyfan pwy arall sydd a'r cyfle i ddewis allan o un tim o chwaraewyr rhyngwladol? Heb son am ddau?

Nia Williams

Written By
Waterfront OnlineNia Williams
Welsh News Editor
 

Nia Williams is the welsh news editor for the waterfront.

 

» find out more

Search