spacer

Issue 153

Waterfront Online
Waterfront Online

Dydd Gwyl Dewi

26th February 2007

Dwi'n siwr fod pawb sydd wedi eu codi yng Nghymru yn cofio dathlu Gwyl Ddewi dros i'r blynyddoedd. I fi fel bob merch ysgol gynradd arall y Wisg Gymraeg oedd un o'r pethau hynny fyddai rhaid ei gwisgo ar Fawrth y Cyntaf bob blwyddyn.

Yr het ddu, y siôl, a'r ffedog du a gwyn sy'n sefyll allan yn fy nghof innau. Ond pam y mae merched bach ar draws y wlad yn gwisgo fel hyn ar Fawrth y Cyntaf?

Wel mae'r wisg yma yn cael ei ystyried fel Gwisg Genedlaethol Cymru. Ac mae llawer yn credu ei bod yn wisg yr oedd pobl bob dydd yn eu gwisgo yn yr hen ddyddiau. Yn wir y mae'r wisg wedi ei selio ar ddillad bob dydd y Deunawfed Ganrif. Sef 'pais wlanen resog a wisgid o dan goban neu wn agored, gyda ffedog, siôl a hances neu gap' yn ôl gwefan Amgueddfa Cymru.

Ni ddaeth yr het uchel ddu yn ffasiynol nes diwedd yr 1840au. Roedd yr het yma yn ôl bob son yn gyfuniad o'r 'Top Hat' a het a oedd yn cael eu gwisgo gan ddynion y wlad rhwng 1790 ag 1820. Yr oedd y siôl wir yn boblogaidd yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg ac un o'r patrymau mwyaf poblogaidd oedd y siôl paisely. Fe ddaeth y patrwm yma yn wreiddiol o Kashmir.

Yr Arglwyddes Llanofer a wnaeth wthio i gael Gwisg Genedlaethol Gymraeg yn ystod y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg. Fe wnaeth annog i bobl i wisgo'r dillad yma yn eu cartrefu a hefyd yn yr Eisteddfodau a.y.b.. Er yn ôl llawer yr oedd hi yn hybu'r wisg oherwydd yr oedd ffrind iddi hi yn rhan o'r diwydiant gwlân.

Ta beth oedd ei gwir resymau am hybu'r Wisg Gymraeg diolch iddi hi yw ein bod yn cael gwisg Gymraeg o gwbl. Ond nid dim ond yr Arglwyddes Llanofer a oedd yn ddylanwadol ar y wisg genedlaethol.

Yr oedd yn boblogaidd iawn gan ddarlunwyr a ffotograffwyr y cyfnod hefyd. Er mwyn y fasnach dwristiaeth daeth y lluniau yma yn boblogaidd, ag o ganlyniad fe wnaeth y wisg sefyll yr un peth gyda dim ond ambell i newid hyd heddiw.

Yn anffodus nid oedd gan yr Arglwyddes Llanofer unrhyw ddiddordeb mewn creu Gwisg Genedlaethol i ddynion. O ganlyniad i hyn pan welwch chi ferched yn mynd o amgylch yn eu gwisgoedd hen fashiwn, mae'r bechgyn yn mynd o amgylch mewn crysau rygbi gyda'r daffodil neu'r Genhinen ar eu brest. Fel y gwelir yn y llun.

Mae'r wisg draddodiadol yn cael eu gwisgo gan y mwyafrif o ferched ysgol Cynradd yng Nghymru. Ond mae yna wahaniaethau yn gallu body n y wisg ei hun. Fydd rhai merched yn gwisgo ffedog sgwariau bach du a gwyn, fydd merched eraill yn gwisgo ffedog streipiog naill ai yn ddu a gwyn neu yn ddu ag yn goch. Wedyn mae yna wahaniaethau yn yr het a wisgir gan ferched. Fydd rhai yn gwisgo'r het dal 'simne', tra fydd eraill yn gwisgo bonet ddu, a fydd eraill eto yn gwisgo hances wen are eu pennau.

Er fod y pethau hyn yn wahanol maent hefyd yn debyg. Y mae'r pethau yma yn gyson oherwydd eu bod yn bresennol yn y gwisg bob tro. Efallau fod y gorchudd pen yn wahanol mewn rhai ffyrdd ond mae yna bron bob tro gorchudd pen o rhyw fath.

Wedi dweud hyn nid y wisg sy'n bwysig ond y diwrnod. Pan welwch chi blant bach yn mynd o amgylch yn eu gwisgoedd cymraeg ar Ddydd Gwyl Dewi cofiwch pam y maent yn eu gwisgo. Er cof am nawdd sant Cymru, Dewi Sant. Ac wrth gwrs er mwyn dathlu ein Cymreictod!

Nia Williams

Written By
Waterfront OnlineNia Williams
Welsh News Editor
 

Nia Williams is the welsh news editor for the waterfront.

 

» find out more

Search