spacer

Issue 153

Waterfront Online
Waterfront Online

Y Genhinen neu'r Genhinen Pedr

26th February 2007

Gyda Mawrth y Cyntaf yn agosáu y mae llawer o bobl yn paratoi i wisgo'r wisg ag i ymddangos symbolau'r Cymry yn glir ar eu personau. Fydd y Daffodil neu'r genhinen yn ddarn o wisg pob Cymro hyd yn oed os na fyddwn nhw'n gwisgo'r Wisg Draddodiadol.

Mae yna sawl rheswm pam y mae'r symbolau yma yn cael eu defnyddio fel y gwelir isod.

Y Genhinen Mae'r genhinen yn llysieuyn sy'n perthyn i'r wnionyn. Planhigyn sydd ddim yn enwedig o ddeniadol ac sydd yn anffodus yn arogli yn wael yw'r genhinen. Er hyn ystyrir y genhinen fel un o symbolau cenedlaethol y Cymry.

Yn ôl Safle Swyddogol Bwrdd Croeso Cymru mae defnyddio'r Genhinen fel symbol o Gymreictod yn mynd yn ôl canrifoedd.

Hyd yn oed yn ôl un stori i amser Dewi Sant ei hun a ddywedodd wrth y Cymry i wisgo'r Genhinen wrth fynd i frwydro a'r Sacsoniaid Paganaidd a oedd yn goresgyn Prydain. Er eu bod i weld yn weddol o sicr mae'r bardd Michael Drayton o Loegr a greodd y stori yma, mae yna dystiolaeth bod Saethwyr Cymraeg wedi gwisgo lliwiau'r genhinen (gwyrdd a gwyn) mor gynnar â'r Bedwaredd Ganrif ar Ddeg.

Y mae hefyd tystiolaeth o'r genhinen fel symbol o Gymreictod drwy lawer o lenyddiaeth y gorffennol. Felly ni ellir ystyried gwisgo'r genhinen fel rhywbeth sy'n cael eu gwneud heddiw. Y mae'n draddodiad sydd yn mynd yn ôl canrifoedd. Y Genhinen Pedr Blodyn melyn sy'n tyfu mewn llawer o erddi yn ystod y gwanwyn yw'r Genhinen Pedr neu'r daffodil.

Mae'r ffaith fod enw Cymraeg y Genhinen Pedr mor debyg i'r gair am 'leek' sef Cenhinen yn un o'r rhesymau pam y mae'r Genhinen Pedr wedi cael eu mabwysiadu gan y Cymry fel un o'n symbolau cenedlaethol.

Ni ddaeth y Genhinen Pedr yn boblogaidd nes yn weddol ddiweddar yn ein hanes, er hyn mae'r Genhinen Pedr yn blanhigyn sydd â hanes hir yn ein cymdeithas. Yn wir yn ôl http://www.mygarden.me.uk/Daffodil.htm mae'r Genhinen Pedr gwyllt wedi bod yn Nghymru llawer yn hirach na'r Genhinen ei hun. Lloyd George oedd un o arwyr y Genhinen Pedr ag ar y 1af o Fawrth bob blwyddyn fe fyddai ef yn gwisgo'r Genhinen Pedr.

Yn ôl llawer o wahanol ffynonellau un o'r prif resymau pam y gwnaeth pobl newid i wisgo'r daffodil oedd oherwydd yr arogl. Mae'r Genhinen Pedr yn symbol llawer mwy prydferth ag wrth gwrs yn arogli gan gwaith yn well na'r Genhinen. Dwi'n gwybod p'un wellten i wisgo.

Wedi dweud hyn i gyd am y Genhinen Pedr rwy'n credu fod y Genhinen Pedr wedi dod i'w gydnabod yn symbol o Gymreictod er yn un fwy modern na'r Genhinen.

Y canlyniad dwi wedi dod i yw hwn: Does dim ots pa un o'r ddau symbol yma y gwisgwch chi ar Fawrth y Cyntaf. Diwrnod i gofio bywyd a gweithgareddau dyn arbennig yw Mawrth y Cyntaf. Diwrnod ble fydd pobl ar draws y wlad yn dathlu eu Cymreictod mewn rhyw ffordd. Nid fel y mae'r dathlu'n digwydd sy'n bwysig, ond pam y mae'n digwydd.

Nia Williams

Written By
Waterfront OnlineNia Williams
Welsh News Editor
 

Nia Williams is the welsh news editor for the waterfront.

 

» find out more

Search