spacer

Issue 154

St Patrick Nawdd Sant yr Iwerddon
St Patrick Nawdd Sant yr Iwerddon

Diwrnod St Patrick

12th March 2007

Wedi ysgrifennu am Nawdd Sant Cymru y tro dwethaf fe benderfynnais i i ysgrifennu am Nawdd Sant Iwerddon yr wythnos hon. Dwi'n siwr fod nifer ohonoch yn credu fod hyn yn beth weddol o od i wneud yn ystyried nid oes genym ni ddim i wneud a Nawdd Sant y Gwyddelod. Ond dyna ble yr ydych chi yn anghywir. Cymro oedd Patrick, cafodd ei eni yn ol rhai dim ond rhyw ugain milltir o Abertawe mewn pentref bach o'r enw Banwen. Ta beth yw'r gwir am hyn, un o'r pethau y mae haneswyr yn weddol o sicr am yw mai Cymro ydoedd yn enedigol. Roedd ei dad Calpurnius yn Swyddog Rhufeinig mewn pentref o'r enw Bannavem Taburniae (Y rheswm y mae Banwen yn cael ei adnabod fel lle genedigaeth Patrick efallai?)

Pan yn un ar bymtheg mlwydd oed cafodd Patrick ei herwgipio a'i gymryd i Iwerddon fel caethwas. Wedi chwech mlynedd fel caethwas fe wnaeth ddianc. Yn yr amser yr oedd Patrick yn gaeth yn yr Iwerddon fe wnaeth weddio llawer a pan y lwyddodd i ddianc yn ol i Brydain fe benderfynodd i ddilyn ei alwedigaeth i fod yn offeiriad, ag yna wedi breuddwyd fe benderfynnodd i fynd yn ol i Iwerddon er mwyn lledaenu'r gair. "Roeddwn i fel petawn yn clywed lleisiau'r rheini a oedd wrth ochr Coedwig Foclut sy'n agos i for y Gorllewin, roeddent yn crio gyda beth oedd i glywed fel un llais: 'Rydym yn erfyn arnot ti, fachgen sanctaidd, y ddei di a cerdded unwaith yn rhagor yn ein plith.'" (St Patrick, Confessio, wedi ei gyfieithu o'r Lladin gan y BBC)

Cyn i Patrick fynd yn ol i'r Iwerddon fel cenhadwr fe wnaeth gymryd rhai blynyddoedd yn astudio. Fel Esgob y gwnaeth Patrick ddod yn ol i Iwerddon. Dim ond yr ail Esgob i wasanaethu'r ynys werdd ydoedd. Fel cenhadwr yn Iwerddon fe wnaeth fedyddio miloedd o bobl tasg anodd yn ol unrhyw fesuriad, nid oedd hyd yn oed ei fywyd yn ddiogel rhag y Paganiaid a oedd yn ei erlid. Nid y Paganiaid oedd ei unig her yn Iwerddon chwaith. Roedd ei bobl ei hun, hynny yw, gweinidogion Cristnogol eraill yn ei gyhuddo o ganlyn statws personol i'w hun.

Mae yna sawl stori wedi ei gysylltu a'r gwr sanctaidd hwn yr un mwyaf poblogaidd efallai yw hwnnw am y nadredd yn cael eu erlid allan o Iwerddon. Mae yna sawl fersiwn o'r stori yma. Mae yna un ble mae Patrick yn sefyll ar ben mynydd a drwy defnyddio ffon bren yn alltudio'r holl nadredd o Iwerddon. Mewn fersiwn arall o'r stori mae yna un hen neidr yn gwrthsefyll ond y mae Patrick yn ei faeddu drwy ddefnyddio cyfrwystra. Yn ol rhai fe wnaeth flwch a gwahodd y neidr i fynd i mewn iddo.

Ond fe wnaeth y neidr fynnu fod y blwch yn rhy fach, fe wnaeth y drafodaeth boethi yn gyflym. Yn diwedd fe aeth y neidr i mewn i'r blwch i brofi ei bwynt, yna fe wnaeth Patrick gau'r clawr ar ei ben a fe daflodd y blwch i'r mor.

Wrth gwrs dim ond storiau yw'r rhain ag er fod dim nadredd yn Iwerddon y mae'n bosib fod dim wedi bod yna ers cyn yr Oes Ia ddiwethaf. Mae yn fwy tebygol mae symboliaeth yw'r stori am y nadredd yn cael eu erlid o Iwerddon am y Paganiaid yn cael eu newid i Gristnogion da.

Mae yna llawer mwy o storiau wedi ei cysylltu a Patrick hefyd er enghraifft esboniad Patrick o'r Drindod yw'r rheswm y mae'r shamrock yn cael ei gysylltu a'i enw. Y diwrnod y mae'r pethau yma i gyd yn cael ei dathlu yw ar yr 17eg o Fawrth. Felly os yr ydych yn dathlu ar ddiwrnod St Patrick eleni, peidiwch anghofio meddwl am y gwr ei hun a'r rheswm yr ydych yn dathlu'r diwrnod.

Nia Williams

Written By
Waterfront OnlineNia Williams
Welsh News Editor
 

Nia Williams is the welsh news editor for the waterfront.

 

» find out more

Search