Issue 154

Waterfront Online
Gair wrth ein Swyddog Materion Cymreig
12th March 2007
Gair o ddiolch i bawb a ddaeth ar y daith i Fangor ar gyfer yr Eisteddfod Ryng-gol flynyddol dros y penwythnos. Fe gawson ni dipyn o lwyddiant yn y cystadlaethau gwaith cartref a'r cystadlaethau llwyfan ar y diwrnod, gan gynnwys dod yn gyntaf yn y Côr Bechgyn ('Y Cwm' gan Huw Chiswell oedd y gân), a chydradd gyntaf yn y Côr Cymysg. Llongyfarchiadau i Rhian Jones ar ddod yn y tri uchaf yng nghystadleuaeth y Gadair.
Fe gafodd Abertawe y drydedd safle yn yr Eisteddfod ar y cyfan, gan guro Aberystwyth! Ar ddiwedd yr Eisteddfod, aethon ni i glwb Amser ar gyfer y gig oedd yn cynnwys Rafter, Vanta, Daniel Lloyd a Mr Pinc, a Frizbee. Dyma ddiweddglo gwych i ddiwrnod a phenwythnos bythgofiadwy!
Cafwyd dathliadau Gwyl Ddewi yn JC's a drefnwyd gan RAG a'r Gym-Gym. Roedd y gweithgareddau'n cynnwys cystadleuaeth Pwl, paentio wynebau, cwis Cymreig ac adloniant byw gan Gareth Phillips, canwr Cymraeg o Gaerfyrddin, y Monophonics. Cafwyd Brwydr y Bandiau yn DV8 yn ogystal. Codwyd arian at Marie Curie drwy werthu cenhinoedd pedr ar draws y campws. Diolch i bawb a gefnogodd yr achos da.
Alun Rhys Chivers


Alun Rhys Chivers