spacer

Issue 155

Waterfront Online
Waterfront Online

Gwleidyddwyr Cymru

08th May 2007

Gyda dechrau cyfnod newydd yn ein hanes fel gwlad rwyf wedi penderfynu edrych yn ôl dros i hanes rhai o wleidyddwyr mwyaf enwog Cymru.

I ddechrau mai rhaid cymryd i ystyriaeth hen dywysogion Cymru. Er nad gwleidyddwyr yw'r rhain, roeddent yn byw mewn amser cyn gwleidyddwyr fel yr ydym ni yn eu hystyried heddiw ond roeddent o hyd yn bwysig wrth ystyried lle Cymru yn y byd.

Enghraifft o hyn yw Llywelyn ap Gruffudd tywysog olaf Cymru. Yr oedd Llywelyn II (o Gymru) yn aelod o Deulu brenhinol Gwynedd yng Ngogledd Cymru. Yn ystod ei yrfa fe wnaeth ehangu ei b?er dros i ardal llawer mwy nag yr oedd ganddo yn 1255 pan gymrodd Gwynedd Uwch Conwy yn gyfan wrth ei ddau frawd. Pwynt uchel yrfa Llywelyn oedd 1267 pan arwyddwyd Cytundeb Trefaldwyn pan gafodd ei adnabod fel Tywysog Cymru gan frenin Lloegr. Yn anffodus fe gollodd Llywelyn lawer o'i ddylanwad wedi hyn ag erbyn iddo gael ei lofruddio yn 1282 roedd unwaith eto yn edrych ar Frenin Lloegr fel uwch Arglwydd.

Enghraifft arall o Wleidyddwr pwysig yn ein hanes yw Owain Glynd?r. Unwaith yn rhagor mai Glynd?r yn byw mewn amser pan nad oedd Gwleidyddwyr Cymraeg i gael eto yr oedd yn bwysig yng Ngwleidyddiaeth Cymru. Ar y 16 o Fedi 1400 cafodd Owain Glynd?r ei enwi yn Dywysog Cymru gan gr?p o ddilynwyr. Dros y pymtheg mlynedd nesa fe wnaeth Glynd?r enw iddo'i hun gan gymryd y gwrthryfel dros i Gymru gyfan. Fe wnaeth hyd yn oed defnyddio gwleidyddiaeth i greu cysylltiad gyda'r Ffrengig, a'r Cytundeb Tridarn rhyngddo ef a rhai o ddynion pwysig Lloegr. Yr oedd Glynd?r hefyd yn gyfrifol am Senedd gyntaf Cymru rhyw 600 o flynyddoedd cyn i'r Cynulliad presennol i agor yng Nghaerdydd. Yn anffodus fel canlyniad i Wrthryfeloedd Glynd?r fe gollodd Cymru llawer o'i hawliau fel gwlad. Ni chafodd llawer o'r hawliau hyn ei rhoi yn ôl am flynyddoedd lawer. Er i Gymru ddod yn fwy blaengar pan ddaeth Cymro i'r Orsedd fel Brenin Lloegr. Harri'r VII oedd y Cymro hwn. Fe ddaeth Harri'r VII yn frenin ar yr 22ain o Awst 1485.

Yn fwy diweddar mae'n bosib edrych ar ddynion sydd yn cael ei ystyried fel gwleidyddwyr. Maent wedi bod yn bwysig yn y Llywodraeth neu yn bwysig i Gymru. Y cyntaf o'r dynion yma sydd eisiau ei ystyried yw "Mabon" neu William Abraham a oedd yn Aelod o Dy'r Cyffredin rhwng 1885 a 1920. Roedd hefyd yn bwysig yng Nghymru fel un o arweinwyr y glowyr. Ef oedd cynrychiolydd y glowyr yng Nghytundeb y "Sliding Scale," ac wedyn ef oedd Arweinydd y "South Wales Miners Federation" a oedd yn bwysig iawn ym mywydau miloedd o weithwyr De Cymru.

Mae'n rhaid hefyd cofio am yr unig Gymro i gyraedd i ben y llywodraeth , David Lloyd George a oedd yn Brif Weinidog dros i'r Deyrnas Unedig rhwng 1916 a 1922. Roedd yn enedigol o Fanceinion ond er hyn yr oedd yn Gymro glan. Fe ddaeth yn Aelod o Dy'r Cyffredin yn 1890 ag yr oedd yn Brif Weinidog yn ystod cyfnod y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd Lloyd George yn cael ei ystyried gan nifer o Gymry fel bradwr oherwydd ni wnaeth gefnogi'r glowyr yn eu streic yn ystod y rhyfel, er hyn roedd Lloyd George yn arweinydd pen i gamp fel y gwelwn wrth edrych ar ei arweiniaeth o'r Deyrnas Unedig yn ystod y Rhyfel.

Cymro arall sydd wedi gwneud llawer i Gymru a hefyd i'r Deyrnas Unedig yw Aneurin Bevan sylfaenydd y GIG (Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol). Fe ddaeth Aneurin Bevan yn aelod o Dy'r Cyffredin yn 1928 ag yna yn Weinidog Iechyd yn 1945 pan ddaeth y Blaid Llafur i'r brig. Misoedd wedyn yn 1946 fe basiwyd Deddf Iechyd Cenedlaethol Bevan er i'r Ceidwadwyr a llawer o bobl y tu fewn i'r Blaid Lafur ei hun wrthwynebu hyn yn fawr iawn. Wedi hyn cafodd Bevan ei wneud yn Weinidog Llafur ond fe wnaeth ymddiswyddo o'r gwaith hyn yn weddol gyflym pan benderfynodd Hugh Gaitskell i gyflwyno taliadau i mewn i'r GIG.

Mae'n amhosib gorffen darn fel hyn heb son am Rhodri Morgan, am mai ef oedd Prif Weinidog Cyntaf Cymru. Pan gafodd y Cynulliad ei gyflwyno yn gyntaf nid oedd gan Gymru Prif Weinidog ond Ysgrifennydd Cyntaf. Fe newidiodd hwn yn y flwyddyn 2000. Er efallai nid ffefryn pawb mae Rhodri Morgan yn ei amser fel Prif Weinidog dros Gymru wedi gwneud llawer i bellhau Cymru wrth y Deyrnas Unedig mewn sawl agwedd o lywodraeth am fod polisďau Lloegr yn aml ddim yn iawn i Gymru.

Erbyn hyn mai'r etholiadau dros y Cynulliad wedi bod ac mai hanes Cymru wedi dechrau ar lwybr newydd. Mae'r Cynulliad wedi cael mwy o bwerau eto wrth y Llywodraeth oherwydd Deddf Llywodraeth Cymru a basiwyd llynedd ac sydd wedi dod i fod wedi'r etholiadau a ddigwyddodd ar y 3ydd o Fai. Os y mai hyn yn beth da neu beidio mae'n rhaid sefyll i weld. Wrth i Gymru bellhau wrth Loegr gobeithio bydd Cymru yn profi ei hun fel gwlad gadarn yn ei henw ei hun, ond yn y dyfodol y mai hyn i gyd a fydd yn rhaid sefyll i weld.

Nia Williams

Written By
Waterfront OnlineNia Williams
Welsh News Editor
 

Nia Williams is the welsh news editor for the waterfront.

 

» find out more

Search