spacer

Issue 152

Cais Cyntaf Iwerddon - Dechrau'r Diwedd?
Cais Cyntaf Iwerddon - Dechrau'r Diwedd?

Chwe Gwlad 2007

12th February 2007

Bob blwyddyn cyn dechrau'r chwe gwlad dwi'n dechrau gobeithio efallai mae eleni yw'r flwyddyn. A bob blwyddyn mae'r un peth yn digwydd.(ond am wrth gwrs 2005) mae fy nghobeithion uchel yn cael eu dymchwel.

Er hyn wedi gwylio'r gem Ddydd Sul diwethaf a gweld fel chwaraeodd tim gymharol newydd yn erbyn tim sefydlog yr Iwerydd mae'n bosib dweud fod Cymru wedi chwarae yn dda.

Efallai ddim mor dda a hoffen i i Gymru fod wedi chwarae ond roedd y ffordd y chwaraeodd ein tim newydd ni yn erbyn dynion fyd-enwog ym myd Rygbi fel O'Driscoll a D'arcy yn arbennig. Doedd dim byd eithriadol am y gem ond roedd hyn yn eu hyn yn dangos fod Cymru wedi llwyddo i gadw'r Iwerydd yn ol. Mae'n rhaid cymryd I ystyriaeth mae Iwerddon yw'r tim yr oedd pawb yn erfyn i gymryd y teitl eleni.

Felly y mae'n dda i weld fod Cymru (a Cymru gyda'r rhanfwyaf o'r tim rheolaidd ddim yn chwarae am wahanol rhesymau e.e. anafiadau) wedi llwyddo i ddodi gwrthwynebiad mor gryf i fynny.

Enwedig wedi'r cais gyntaf ar ol dim ond munud cyntaf y gem. Rwy'n siwr yr oedd pawb yn meddwl fod dechrau'r diwedd wedi cyrraedd a ni fyddai unrhyw bwrpas i wylio gweddill y gem. Ond fe sefais i wrth y teledu er hyn, ag er i fi fod yn siomedig gyda'r sgor ar ddiwedd y gem mae'n rhaid dweud i fi fwynhau'r gem yn fawr. Roedden i ar binniau drwy'r gem gyfan yn enwedig yn yr ail hanner pan yr oedd y sgor mor agos. Am hanner awr gyntaf yr ail hanner fe fu i'r Cymry bron a dorri trwyddo sawl gwaith ond yn anffodus ni ddigwyddodd hyn. Roedd yr un peth yn wir am yr Iwerydd ond ar ddiwedd yr hanner awr hyn fe wnaeth yr Iwerydd dorri trwyddo gan gymryd y gem allan o'n golwg ni. Byddai cais wedi bod yn ddigon i ni fynd yn y blaen drwy gydol yr ail hanner ond wedi cais a throsiad yr Iwerydd fe aeth y bwlch yn y sgor yn fwy 10 pwynt. A gyda 10 munud i fynd fyddai bron yn amhosib i wneud unrhywbeth amdano ag yn wir dyna fel y bu pethau yn anffodus.

Gyda un gem siomedig y tu ol i ni beth fydd gyda'r wythnosau nesaf i ddangos am rygbi Cymru? Fyddwn ni yn dod yn ol i'r brig neu fyddwn ni yn colli bob gem? Wedi cymryd i ystyriaeth holl gemau'r penwythnos dwi'n credu efallu y fydd rhai pobl yn newid eu meddwl am y cwestiynau hyn ag eraill. Wedi'r cyfan pwy a feddylau y byddai'r Alban yn colli gyda cymaint i'r Albanwyr? Fe wnaeth y gem hwnnw ddangos i ni beth y gall un chwaraewr wneud i'w wlad. Fe wnaeth Jonny Wilkinson sgorio rhyw ugain o bwyntiau i Loegr gyda'u gicio arbennig. Ydy Lloegr ar ol Hydref ofnadwy yn ol? Dim ond amser a ddangosir fel y fydd pethau yn mynd ond gobeithio fydda i fel bob Cymro arall werth ei halen hyd y diwedd. Cymru am byth!

Nia Williams

Written By
Waterfront OnlineNia Williams
Welsh News Editor
 

Nia Williams is the welsh news editor for the waterfront.

 

» find out more

Search