spacer

Issue 160

Waterfront Online
Waterfront Online

Materion Cymraeg: 160

19th November 2007

Yr wythnos yma, mae Lleu Williams, y Golygydd Cymraeg yn sylwi ar pwysigrwydd Milltir y Mwmbwls a beth mae'n ei olygu ar i fyfyrwyr yn Abertawe.

Y Mwmbwls, pentref bach a oedd arfer fod yn llawn pysgotwyr i'r gorllewin o Abertawe, cartref i Catherine Zeta Jones ac o'r blaen llawer o fyfyrwyr meddw.

Fe welodd y penwythnos diwethaf fy nhrip i'r Mwmbwls I wneud y filltir enwocaf, yr hyn a oedd fel arfer yn cael ei alw'n Milltir y Mwmbwls. Mae'n daith mae fi a fy ffrindiau yn ceisio ei wneud pob tymor, gyda phawb mewn amryw o lefelau o feddwdod, ac nid oedd y penwythnos hwn yn eithriad.

Un peth rwy'n teimlo dylai oll myfyrwyr Abertawe ei wneud yw'r filltir gan ei fod yn gymaint o hwyl, ond hefyd rwy'n teimlo ei fod yn bwysig i gadw'r filltir yn fyw! Dros y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi gweld llawer o dafarnau yn cau, a chawsom sioc i weld fod y 'Nag'd Head' wedi'u cau- a cyn ichi ofyn, nid oedd Del-boy yn agos!

Oherwydd bod llawer o dafarnau wedi cau, rydym nawr yn dechrau yn Newton, ychydig uwchben i'r Mwmbwls. Os oes yna unrhyw weinyddwyr cymdeithasol yn darllen hwn, ewch a'ch criw i lawr i'r Mwmbwls- cewch amser gorau eich bywyd yno, gwarantedig! Os oes rhywun eisiau help a chynlluniau'r daith, rhowch e-bost i mi ar cymraeg@waterfront.co.uk.

Lleu Williams

Written By
Lleu WilliamsLleu Williams
Welsh Editor
 

Lleu Williams is one of the Welsh editors for the Waterfront.

 

» find out more

Search