Issue 151

Santes Dwynwen
Santes Dwynwen neu Sant Ffolant?
29th January 2007
Ar y 14eg o Chwefror fe fydda i ynghyd a miloedd o bobl eraill yn dathlu diwrnod Sant Ffolant. Diwrnod y cariadon. Ond nid dyma yr unig gyfle sydd gan gariadon yng Nghymru i ddathlu. Yn Nghymru nid Sant Ffolant yw Nawdd Sant y Cariadon ond Santes Dwynwen. Mae diwrnod Santes Dwynwen yn cwympo rhyw dair wythnos cyn diwrnod Sant Ffolant ar Ionawr y 25ain.
Y cwestiwn yw pa un o'r ddau hyn yw'r diwrnod i ddathlu? Ai Chwefror y 14eg fel y mwyafrif o bobl neu Ionawr y 25ain diwrnod Nawdd Sant Cariadon y Cymry yw'r dyddiad cywir?
Mae'r cwestiwn hwn yn amhosib i'w hateb am ei fod i gyd i lawr i beth yr ydych chi yn ei gredu sy'n iawn. Mae hanes y ddau sant yn ddiddorol iawn. Mewn rhai ffyrdd mae'r ddau stori yn debyg iawn. Amddiffynnwyr cariadon, yn ol y chwedlon, oedd y ddau.
Offeiriaid yn amser y Rhufeiniaid oedd Sant Ffolant pan wnaeth yr Ymerawdwr Claudius II benderfynnu ei wneud yn anghyfreithlon i ddynion i briodi, am mai dim ond dynion sengl oedd yn cael ei gorfodi i fynd i'r fyddin. Nid oedd Ffolant yn gweld hyn yn deg a fellu fe benderfynnodd i briodi cariadon yn gyfrinachol. Pan ddaeth gwithredau'r offeiriaid i'r golwg cafodd ei ddedfrydu i farwoleth. Yn ol storiau eraill roedd Ffolant wedi ei ladd oherwydd iddo gynorthwyo Cristnogion i ddianc oddi wrth carchardai llym y rhufeiniaid. Ond does dim sicrwydd mae'r gwr hwn oedd y Sant Ffolant. Mae yna ymgeiswyr eraill i gael hefyd. Er hyn dyma un o'r storiau mwyaf blaenllaw.
Ar y llaw arall does dim unrhyw amheuaeth pwy oedd Santes Dwynwen. Dim ond un ymgeisydd sydd i'r rol yma. Eto mae'r stori y tu ol i'r nawdd sant yma rhywfaint yn niwlog. Mae yna o leiaf dau fersiwn o'r stori.
Y cyntaf yw i Dwynwen gwympo mewn cariad a Maelon Dafodrill ond fe wnaeth Maelon wrthod cariad Dwynwen. Fel canlyniad i hyn fe wnaeth Dwynwen gilio i Ynys Llanddwyn. Yno fe welodd ysbryd wrth iddi wylio llyswennod yn nofio mewn ffynnon. Rhoddodd yr ysbryd yma dri dymuniad iddi. Tri dymuniad Dwynwen oedd:
- I Maelon cael ei droi i ia am wrthod ei chariad
- am iddi gael sefyll ar Llanddwyn am weddill ei hoes
- byddai bob par o gariadon a oedd yn ymweld a Llanddwyn yn hapus am weddill eu bywydau.
Yna fe rhoddodd Dduw dri dymuniad iddi. Yn y fersiwn yma o'r stori y tri dymuniad oedd:
- I wneud Maelon yn ddyn unwaith yn rhagor
- I Dduw i gwrdd a gobeithion a breuddwydion bob par o gariadon
- I Dwynwen i aros yn ddi-briod am gweddill ei hoes.
Felly wedi cael y ddau stori pa ddiwrnod y byddwch chi yn ei ddewis? Yn fy marn i y mae'n gwbwl amhosib i dewis rhwng y ddau felly yr ateb yw i ddathlu ddwy waith unwaith ar y 25ain o Ionawr ag unwaith ar y 14eg o Chwefror. Wedi'r cyfan, mae'n amhosib dathlu cariad ormod.
Nia Williams


Nia Williams